Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Hydref 2016
Amser: 09.09 -
10.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3748
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Adam Price AC (yn lle Neil McEvoy AC) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod PDF (211KB) Gweld fel HTML (59KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
Roedd Adam Price yn bresennol yn lle Neil McEvoy.
Roedd Janet Finch-Saunders wedi anfon ei hymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a yw'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag awtistiaeth mewn hyfforddiant athrawon drwy'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg sydd i ddod, a'r amserlen arfaethedig ar gyfer hyn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn iddynt roi ystyriaeth lawn i'r ddeiseb wrth ystyried prosiect Cylchffordd Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i wahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth bellach i'r Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i gael barn:
· y deisebwyr ar y fframwaith newydd ar gyfer addasiadau yn y cartref sy'n cael ei weithredu ar hyn o bryd; a
· Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Anabledd Cymru ar y materion a godwyd yn y ddeiseb a gweithredu'r fframwaith newydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i basio'r ddeiseb a sylwadau ychwanegol y deisebydd at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a gofyn iddo ystyried codi'r materion yn y ddeiseb wrth graffu ar waith Prif Weinidog Cymru ar y goblygiadau i Gymru o'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebwyr cyn trafod y ddeiseb ymhellach.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach.
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol, a chytunwyd i gau'r ddwy ddeiseb o gofio ystyriaeth fanwl y Pwyllgor blaenorol o'r materion a'r datganiad clir o farn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Meningitis Now a Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd i ofyn am eu barn ar ymestyn y rhaglen frechu bresennol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod ymchwil i economeg y diwydiant cartrefi mewn parciau bellach wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, cytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am sylwadau'r Llywodraeth ar yr argymhellion mewn perthynas â gallu perchnogion safleoedd i godi tâl comisiwn ar werthu cartrefi mewn parciau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· gau'r ddeiseb, o ystyried boddhad y deisebydd; ac
· anfon sylwadau ychwanegol y deisebydd at y Llywodraeth a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr er mwyn llywio eu gwaith ar y mater hwn.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor argymhellion Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.